Hepgor gwe-lywio

Ymweliadau Teuluol

Cyflwyno theatr yn ifanc...

Rydym yn deall y gall dod â'ch plant i'r theatr fod yn dipyn o antur, felly roeddem am geisio gwneud eich ymweliad cyntaf â Theatr y Dywysoges Frenhinol yn un hawdd ac arbennig. Rydym wedi ceisio meddwl am bopeth y bydd angen i chi ei wybod am ddod â theulu i Theatr y Dywysoges Frenhinol i wylio sioe.

Os ydym wedi anghofio rhywbeth neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi ffonio'r Swyddfa Docynnau ar neu anfonwch y ffurflen. Mae ein staff croesawgar a chyfeillgar bob amser ar gael i'ch helpu.

 

Sioeau i'r Teulu

Mae gennym rai sioeau ar ein rhaglen sy'n addas i theuluoedd a phlant ifanc yn benodol.

 

Prisiau Sioeau i'r Teulu

Ar gyfer y mwyafrif o'n sioeau i'r teulu, rydym yn cynnig pris tocyn consesiynol, neu fydd yn rhan o'r 'tocyn teulu'. Mae'r tocyn teulu'n cynnig pris gostyngedig i unrhyw un sy'n archebu tocynnau ar gyfer dau oedolyn a dau blentyn ar yr un pryd. Pan fyddwch yn archebu Tocyn Teulu ar ein gwefan, caiff y pris ei ddiweddaru'n awtomatig yn eich basged.

 

Toiledau/Cyfleusterau newid Cewynnau

Mae toiledau ar bob lefel yn Theatr y Dywysoges Frenhinol, ac mae ein cyfleusterau newid cewynnau a'n toiledau hygyrch wedi'u lleoli ar lawr gwaelod y theatr, yng nghyntedd mynedfa'r theatr.

 

Cadeiriau gwthio

Mae'r llawr gwaelod yn gwbl hygyrch i gadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn. Yn anffodus, nid ydym yn caniatáu i chi fynd â chadeiriau gwthio i mewn i'r awditoriwm ar gyfer y perfformiad ond gallwch eu gadael gyda'r staff tŷ blaen a byddant yn eu storio'n ddiogel i chi. Nid oes mynediad i'r anabl i lefelau uwch y theatr ond rhowch wybod i'r swyddfa docynnau am unrhyw ddefnyddwyr cadair olwyn pan fyddwch yn archebu eich seddi.

 

Y Bar

Mae gennym gynnyrch sy'n addas ar gyfer plant, gan gynnwys diodydd a byrbrydau.

 

Polisi Eistedd ar Arffed

Ni chodir tâl am blant 2 oed ac yn iau ond rhowch wybod i'r swyddfa docynnau pan fyddwch yn archebu'ch tocynnau. *Efallai y bydd gan sioeau dethol eu polisi oedran eu hunain y mae'n rhaid i'r theatr ei ddilyn

 

Parcio

Yn ystod y cyfnod rhwng 9am a 5pm ar ddydd Llun i ddydd Gwener, nid oes unrhyw barcio ar y safle - rydym yn argymell eich bod yn defnyddio maes parcio aml lawr Port Talbot, SA12 8HN

© Cyngor Castell-nedd Port Talbot