Hepgor gwe-lywio

Hygyrchedd

Mynediad i bobl ag anableddau:

Os oes gennych unrhyw ofynion arbennig, cysylltwch yn uniongyrchol â'r swyddfa docynnau fel y gallwn ddarparu ar gyfer eich anghenion unigol. Mae croeso i gŵn tywys a chŵn clywed.

 

Defnyddwyr Cadeiriau Olwyn:

Sylwer nad yw'r cylch yn addas i gadeiriau olwyn, pramiau na chadeiriau gwthio. Gofynnwch i aelod o staff os oes angen cymorth arnoch.

 

Pobl Fyddar neu â Nam ar y Clyw

Mae derbynyddion ar gael ar gyfer pobl sydd â nam ar y clyw.

 

Hynt

Mae Theatr y Dywysoges Frenhinol yn aelod o gynllun Hynt. Cynllun mynediad cenedlaethol yw Hynt sy'n gweithio gyda rhwydwaith o theatrau a chanolfannau celfyddydau ledled Cymru. Bydd gan ddeiliaid cardiau Hynt yr hawl i gael tocyn am ddim ar gyfer cynorthwy-ydd personol neu ofalwr.

 

Parcio

Rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, nid oes lleoedd parcio ar gael ar y safle. Rydym yn argymell eich bod yn parcio ym maes parcio aml lawr Port Talbot SA12 8HN.

 

Methu dod o hyd i'r hyn rydych chi'n chwilio amdano? Os oes gennych ymholiadau pellach, ffoniwch ein Swyddfa Docynnau'n uniongyrchol ar 01639 763214
© Cyngor Castell-nedd Port Talbot