ORIAU AGOR Y SWYDDFA DOCYNNAU - O BELL
Mae ein Swyddfa Docynnau'n gweithredu o bell, ac mae wedi lleihau ei horiau agor ar gyfer ymdrin ag ymholiadau dros y ffôn ac archebion - 01639 763214
- Oriau Gweithredu Dros Dro'r Swyddfa Docynnau: Dydd Llun – dydd Gwener: 10y.b–12y.p ac 1y.p-3y.p
- Caiff ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol eu monitro yn ystod oriau swyddfa.
- Am ymholiadau cyffredinol, darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin a'n Hamodau a Thelerau.
PERFFORMIADAU WEDI'U CANSLO
Os caiff sioe ei chanslo, bydd gennych hawl i ad-daliad llawn.
PERFFORMIADAU WEDI'U HAILDREFNU
Os caiff sioe ei gohirio, byddwn yn cysylltu â chwsmeriaid drwy e-bost i roi gwybod iddynt am y dyddiadau newydd. Caiff tocynnau cwsmeriaid eu trosglwyddo'n awtomatig i'r dyddiad newydd a lle bo'n bosib, byddwn yn ceisio rhoi tocynnau ar ddiwrnod ac amser cyfwerth, ac yn yr un seddi â’r tocynnau a archebwyd yn wreiddiol. Os na allwch ddod ar y dyddiad newydd a drefnwyd neu roi eich tocynnau i ffrind, e-bostiwch artsmarketing@npt.gov.uk i roi gwybod i ni.
Mae gan ddeiliaid tocynnau sawl opsiwn, ac fe'u rhestrir isod:
- Cadw eich tocynnau ar gyfer y sioe a aildrefnwyd.
- Rhoi eich tocynnau i ffrind os nad yw'r dyddiad yn addas.
- Hawlio ad-daliad llawn i'ch dull talu gwreiddiol. Os gwnaethoch dalu â cherdyn, sylwer y bydd y taliad yn ymddangos fel taliad gan Neath Port Talbot County Borough Council ar eich cyfriflen ac nid Theatr y Dywysoges Frenhinol
Gwybodaeth am Docynnau
- Nid oes modd ad-dalu tocynnau
- Rhaid talu £1 i bostio tocynnau
- Dylid gwneud sieciau'n daladwy i 'Neath Port Talbot CBC'
- Gellir casglu tocynnau a archebwyd ar-lein o'r lleoliad 24 awr ar ôl eu prynu neu gallwch eu gadael yn y lleoliad nes diwrnod y perfformiad
- Gallwn roi tocynnau ar gadw am hyd at 7 niwrnod heb dderbyn taliad. Ni chaiff tocynnau a archebwyd eu cadw o fewn wythnos i'r perfformiad a chânt eu rhyddhau os bydd y perfformiad yn gwerthu pob tocyn
Mae tocynnau ar gael dros y ffôn neu ar-lein ar hyn o bryd.