Hepgor gwe-lywio

Telerau ac Amodau

1. Termau a Ddiffinnir

1.1       Mae “Cytundeb” yn golygu’r cytundeb rhyngom ni a chi.

1.2       Gweithredir a rheolir Canolfan Gelfyddydau Pontardawe a Theatr y Dywysoges Frenhinol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, y cyfeirir atynt o hyn ymlaen fel “Theatrau Castell-nedd Port Talbot”. Drwy dderbyn eich archeb mae cytundeb sy’n eich ymrwymo’n gyfreithiol rhyngoch chi a  Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn cael ei greu. Bydd y cytundeb hwn yn cael ei lywodraethu gan, a’i ddehongli’n unol â chyfraith Cymru a Lloegr, a llysoedd barn Cymru a Lloegr fydd yn cael pob awdurdodaeth i ddatrys unrhyw anghydfod.

1.3       Mae “ni” ac “ein” yn golygu Theatrau Castell-nedd Port Talbot fel y’i pennir gan amod 1.2

1.4       Mae “chi” ac “eich” yn golygu’r person / bobl yr ydym ni wedi derbyn archeb am docynnau oddi wrthynt.  

1.5       Ystyr “perfformiad” yw unrhyw ddigwyddiad neu weithgaredd y mae angen tocyn ar ei gyfer a werthwyd neu a reolwyd gan Theatrau CNPT. Gellir diffinio perfformiad fel digwyddiad byw/sgriniad sinema/sgriniad loeren/ gweithgaredd/ gweithdy/ digwyddiad hurio preifat/digwyddiad hurio corfforaethol. Mewn rhai achosion gwerthir tocynnau ar ran eraill, gan gynnwys trefnwyr cyngherddau/sioeau/digwyddiadau, artistiaid a lleoliadau.

 

2. Ffurfio ein cytundeb gyda chi  

2.1       Mae pob tocyn yn cael ei werthu dan yr amodau hyn a dim telerau ac amodau eraill. Darllenwch yr amodau hyn yn ofalus cyn i chi brynu tocyn neu archebu gyda ni os gwelwch yn dda.

2.2       Mae cytundeb ar gyfer gwerthu Tocynnau gennym ‘ni’ i ‘chi’ ac yn ddarostyngedig i’r Amodau hyn yn cael ei ffurfio pan dderbynnir gennym ‘ni’ ‘eich’ archeb ‘chi’, boed eich archeb (a) yn cael ei wneud ar lein (drwy gwblhau’r gyfres o dudalennau ar gyfer archebu tocynnau a amlinellir ar ein gwefan), (b) wyneb yn wyneb yn ein Swyddfa Docynnau a leolir yn unrhyw un o leoliadau Theatrau Castell-nedd Port Talbot neu  (c) dros y ffôn i’r Swyddfa Docynnau. Ni fernir fod eich archeb wedi cael ei wneud nes ein bod ni wedi derbyn taliad yn unol ag Amod 5.

2.3       Nid oes dim byd yn y telerau ac amodau hyn a fwriedir i effeithio ar eich hawliau statudol.  

2.4       Nid oes dim byd yn y Cytundeb hwn a fwriedir i fod yn orfodadwy dan Ddeddf Cytundebau (Hawliau Trydydd Partïon) 1999 gan unrhyw drydydd parti.

2.5       Nid yw’r telerau ac amodau hyn yn berthnasol i unrhyw gynnyrch arall a restrir ar werth neu a werthir yn Theatrau Castell-nedd Port Talbot, y bydd telerau ac amodau gwahanol yn berthnasol.

 

3. Cyffredinol

3.1       Awdurdodir ein staff i wrthod mynediad i’r theatr a neilltuo’r hawl i wneud hynny os yn eu barn lwyr hwy mae eich ymddygiad chi o’r fath sy’n debygol o darfu ar neu aflonyddu personau eraill sy’n mynychu’r theatr.

3.2       Nid oes gennym unrhyw oddefgarwch o ran unrhyw fygythiad tuag at staff. Gofynnir i unrhyw berson a glywir yn defnyddio iaith ymosodol, a welir yn defnyddio ymddygiad bygythiol neu sydd wedi meddwi i’r lefel lle mae’n achosi trallod i eraill adael yr adeilad ar unwaith.

3.3       Rydym yn cadw’r hawl i newid neu amrywio’r perfformiad / digwyddiad oherwydd digwyddiadau neu amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y lleoliad. Nid yw hyn yn effeithio ar eich hawliau statudol.

3.4       Er bod pob ymdrech yn cael ei wneud i ddisgrifio’r perfformiad, ni allwn warantu y bydd eich disgwyliadau personol gan berfformiwr neu berfformiad yn cael eu cyflawni. Mae hyn oherwydd bod disgwyliadau a chwaeth bersonol yn annherfynol o amrywiol. At hynny, ni all Theatrau Castell-nedd Port Talbot warantu na fydd iaith, ymddygiad nac ymddangosiad unrhyw berfformiwr yn eich tramgwyddo. Byddwn yn darparu canllaw oedran ar gyfer y mwyafrif o berfformiadau, os ydych chi’n ansicr ynghylch canllawiau oedran, gofynnwch wrth archebu. Fe’ch cynghorir i wneud ymholiadau yn y Swyddfa Docynnau cyn prynu tocyn os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch natur perfformiad.

3.5       Mae meddu ar docyn dilys yn awdurdodi derbyn y deiliad i’r awditoriwm yn union cyn i’r perfformiad ddechrau ond unwaith y bydd y perfformiad wedi cychwyn mae’r canlynol yn berthnasol. Er mwyn osgoi aflonyddu ar y gynulleidfa a’r perfformwyr, ni fydd hwyrddyfodiaid yn cael mynediad i’r awditoriwm tan y bydd pwynt addas yn y perfformiad, a bennir gan staff blaen tŷ. Efallai y gofynnir i hwyrddyfodiaid eistedd yn y seddi mwyaf hygyrch sydd ar gael tan yr egwyl.

3.6       Rhaid diffodd cyfleuster sain eich ffôn symudol pan fyddwch chi y tu mewn i’r awditoriwm. Yn yr un modd, rhaid i chi beidio â siarad i mewn i ffôn symudol neu ddyfais debyg arall pan fyddwch yn yr awditoriwm. Mewn argyfwng rhaid i chi ddefnyddio ffôn symudol i siarad y tu allan i’r awditoriwm.

3.7       Ni chaniateir ysmygu o unrhyw fath gan gynnwys e-sigaréts y tu mewn i Theatrau Castell-nedd Port Talbot.

3.8       Dylid mynegi unrhyw gwynion sy’n ymwneud â’r perfformiad, y lleoliad (e.e. tymheredd, glendid ac ati), aelodau eraill o’r gynulleidfa, wrth staff y theatr ar fyrder cyn neu yn ystod y perfformiad, er mwyn i’r broblem gael ei datrys yn brydlon.

3.9       Gwaherddir gwneud recordiadau a ffotograffiaeth, gyda fflach neu hebddo, yn yr awditoriwm heb gydsyniad awdurdodedig ysgrifenedig.

3.10     Recordiadau o ymwelwyr â’n lleoliadau – Gallwn ni, neu drydydd partïon a awdurdodwyd gennym ni, gynnal recordiadau ffotograffau, ffilm a / neu sain yn ystod, cyn neu ar ôl perfformiad a / neu y tu mewn neu’r tu allan i’n lleoliad o bryd i’w gilydd. Trwy brynu tocynnau gennym ni, rydych chi’n cydsynio i ganiatâu i chi ac unrhyw bersonau (gan gynnwys unrhyw blant) a all ddod gyda chi, gael eu cynnwys mewn recordiadau o’r fath ac y gall recordiadau o’r fath gael eu defnyddio gennym ni at unrhyw ddibenion masnachol rhesymol, gan gynnwys, heb gyfyngiad, at ddibenion marchnata a hyrwyddo. Ni fyddwn yn gwneud unrhyw daliad i chi mewn perthynas â’ch cynnwys mewn recordiadau o’r fath.

3.11     Newidiadau i’r cast, y rhaglen a’r trefniadau a hysbysebir – Gwerthir tocynnau yn amodol ar ein hawl i newid neu amrywio’r cast, y rhaglen a’r trefniadau a hysbysebir. Ble bynnag y bo modd, gwneir ymdrech i’ch hysbysu am unrhyw newidiadau yn yr hyn a hysbysebwyd cyn y digwyddiad, ar wefan y lleoliad ond ni ellir gwarantu hyn; mewn achos o’r fath, ni roddir ad-daliad.

3.12     Rydym ni’n cadw’r hawl i gynnal chwiliadau diogelwch i sicrhau diogelwch ein cwsmeriaid a’n staff; i wrthod mynediad i chi a / neu eich tynnu allan o’n lleoliad neu unrhyw berfformiad o dan yr amgylchiadau a ganlyn: (a) os ydych chi neu unrhyw un o’ch grŵp yn ymddwyn mewn ffordd a fydd neu a allai effeithio’n andwyol ar fwynhad pobl eraill yn ein lleoliad neu yn unrhyw berfformiad; (b) os ydych chi, yn ein barn ni, yn ymddwyn yn afresymol p’un ai o ganlyniad i chi fod o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau neu fel arall; (c) os methwch â chydymffurfio â chwiliad diogelwch; (ch) am resymau iechyd a diogelwch neu ddiogelwch; (d) os na fyddwch yn darparu tocyn dilys ar gyfer y perfformiad pan ofynnir i chi wneud hynny; neu (dd) os methwch â chydymffurfio ag unrhyw un o’r amodau hyn, neu os ydych yn eu torri.

3.13     Rydym ni’n cadw’r hawl i wrthod gwerthu tocynnau i unrhyw un y credwn eu bod yn eu prynu at ddibenion eu hailwerthu. Oni bai eich bod yn cael caniatâd penodol gennym ni, ni ddylid ailwerthu tocynnau, na’u trosglwyddo er elw neu i wneud elw masnachol. Os gwnewch hynny, byddwn yn ystyried bod y Tocynnau perthnasol yn ddi-rym a gellir gwrthod mynediad i ddeiliad y Tocynnau.

3.14     Yn ddarostyngedig bob amser i Amodau 3.16 a 3.17, os methwn ni â chydymffurfio â’r Amodau hyn, byddwn ond yn atebol i chi am bris y Tocynnau ac unrhyw golledion uniongyrchol yr ydych yn eu dioddef o ganlyniad i’n methiant i gydymffurfio (p’un a ydynt yn codi fel rhan o’n cytundeb, camwedd (gan gynnwys esgeulustod), torri dyletswydd statudol neu fel arall) sydd hefyd yn ganlyniad rhagweladwy i fethiant o’r fath. Mae pob rhwymedigaeth arall o’n tu ni, o unrhyw fath o gwbl, wedi’u heithrio i’r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith.

3.15     Ni fyddwn yn atebol am unrhyw gostau teithio neu lety y byddwch chi’n mynd iddynt o dan unrhyw amgylchiadau, gan gynnwys os bydd perfformiad yn cael ei ganslo.

3.16     Nid oes dim yn yr Amodau hyn sy’n eithrio neu’n cyfyngu ar ein hatebolrwydd dros:

            (a) marwolaeth neu anaf personol a achoswyd gan ein hesgeulustod;

(b) twyll neu gamliwio twyllodrus;

(c) unrhyw achos o dorri’r rhwymedigaethau a awgrymir gan adran 12 o Ddeddf Gwerthu Nwyddau 1979 neu adran 2 o Ddeddf Cyflenwi Nwyddau a Gwasanaethau 1982;

(ch) unrhyw fater arall y byddai’n anghyfreithlon inni eithrio neu geisio eithrio ein hatebolrwydd amdano.

 

4. Tocynnau

4.1       Mae pob tocyn yn ddibynnol ar fod ar gael.

4.2       Rhaid i bob aelod o’r gynulleidfa fod yn eiddo ar docyn dilys. Ni fydd tocynnau a newidiwyd neu a ddifwynwyd yn ddilys.

4.3       Mae’n amod gwerthu mewn perthynas â’r holl docynnau nad yw tocyn ond yn ddilys i’w dderbyn i’r perfformiad y cafodd ei archebu ar ei gyfer. Ni ddylid ar unrhyw adeg werthu’r tocyn am bris uwch na’r pris hwnnw y telir amdano yn Swyddfeydd Tocynnau Theatrau Castell-nedd Port Talbot. Mae unrhyw docyn a werthwyd ar unrhyw adeg yn groes i’r amod hwn yn ddi-rym ac ni fydd yn caniatâu i’r deiliad gael mynediad i’r perfformiad.

4.4       Gwiriwch eich tocynnau os gwelwch yn dda, am nad oes modd cywiro camgymeriadau bob amser.

4.5       Nid yw derbyn cadarnhad o’ch archeb dros e-bost yn gwarantu gwerthu’r tocyn (gwerthiannau ar y we yn unig).

4.6       Gellir cyfnewid tocynnau ar gyfer yr un sioe ar ddiwrnod arall neu am sedd arall am yr un pris (neu bris uwch o dalu’r gwahaniaeth). Rhaid cyfnewid tocynnau gyda Swyddfa Docynnau’r lleoliad nid hwyrach na 48 awr cyn y perfformiad cyntaf. Mae tâl o £2 fesul pob trafodiad llawn ar gyfer y gwasanaeth cyfnewid hwn.

4.7       Ac eithrio canslo perfformiad ar ein rhan ‘ni’, nid oes modd cael ad-daliad na rhan o ad-daliad ar ôl i docyn gael ei brynu.

4.8  Os caiff y perfformiad ei aildrefnu, byddwn yn trosglwyddo'ch tocyn/tocynnau'n awtomatig i'r perfformiad a aildrefnwyd.

4.9   Os bydd perfformiad yn cael ei aildrefnu, bydd yn rhaid i chi gael cyfnod penodol i ofyn am ad-daliad ('Cyfnod Gwneud Cais am Ad-daliad'')

4.10  Bydd y Cyfnod Gwneud Cais am Ad-daliad yn dechrau pan gewch eich 'hysbysu o'r digwyddiad a aildrefnwyd a'ch cynghori i gysylltu os na allwch ddod ar y dyddiad yr aildrefnwyd y perfformiad'.

4.11  Pan gewch eich hysbysu o berfformiad a aildrefnwyd, y cyfnod 'Gwneud Cais am Ad-daliad' yw 30 niwrnod.

4.12  Mewn perthynas â 4.9, rhaid gwneud cais am ad-daliad drwy e-bost i princess.royal@npt.gov.uk neu'n ysgrifenedig i'r Swyddfa Docynnau, Theatr y Dywysoges Frenhinol, Port Talbot, Canolfan Ddinesig SA13 1PJ.

4.13 Pan fydd y cyfnod Gwneud Cais am Ad-dalid wedi mynd heibio, ac nid ydych wedi gofyn am ad-daliad, mae eich hawl i ad-daliad am docyn/docynnau hefyd yn mynd heibio.

4.8       Os ydych chi’n prynu tocynnau ar ran grŵp, rydych “chi’n” derbyn y telerau ac amodau ar ran y grŵp a “chi” sy’n gyfrifol am bob taliad sy’n ddyledus gan y grŵp.

4.9       Os oes angen i chi newid unrhyw fanylion sy’n ymwneud â’ch archeb ar ôl ei gwblhau eich cyfrifoldeb “chi” yw hysbysu Theatrau Castell-nedd Port Talbot.

4.10     Ni ddarperir tocynnau dyblyg yn achos colli’r tocyn gwreiddiol sy’n ymwneud â digwyddiad trydydd parti neu logi preifat.

4.11     Ni ellir gwneud ad-daliad ar unrhyw docyn ac ni ellir ei drosglwyddo. Os ydych wedi ail-werthu eich tocyn er budd masnachol, gwrthodir mynediad i ddeiliad y tocyn.

4.12     Trwy osod eich archeb rydych yn gwarantu bod yr holl fanylion rydych chi’n eu darparu i ni at ddibenion archebu, ordro neu brynu nwyddau neu wasanaethau yn gywir, bod y cerdyn credyd neu ddebyd rydych chi’n ei ddefnyddio yn eiddo i chi a bod arian digonol i dalu cost y tocyn neu’r gwasanaeth. Os bydd unrhyw newidiadau i’r manylion a ddarperir gennych chi, eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i ni.

 

5. Pris Tocynnau

5.1       Rhaid i bob taliad gael ei dderbyn yn ddilys gan Theatrau Castell-nedd Port Talbot cyn y gellir cyhoeddi tocyn dilys.

5.2       Bydd prisiau’r tocynnau fel y’u dyfynnir ar ein gwefan a deunydd hyrwyddo arall, oni bai yn achos camgymeriad amlwg.

5.3       Fe all unrhyw bryniant tocynnau fod yn ddibynnol ar gostau trafod a / neu gostau postio, y ceir manylion amdanynt ar ein gwefan.

5.4       Gall prisiau tocynnau newid ar unrhyw adeg, ond ni fydd newidiadau’n effeithio ar archebion mewn achosion ble byddwn ni wedi anfon cadarnhad archebu atoch chi, oni bai yn achos camgymeriad amlwg.

5.5       Ar gyfer archebion a wneir ar lein drwy gyfrwng gwefan Theatrau Castell-nedd Port Talbot, mae Theatrau Castell-nedd Port Talbot yn derbyn taliadau Visa Debit, Visa Credit a Mastercard.

5.6       Ar gyfer archebion a wneir yn y Swyddfa Docynnau wyneb yn wyneb, mae Theatrau Castell-nedd Port Talbot yn derbyn taliadau ag arian parod, siec, Visa Debit, Visa Credit, Mastercard a Thalebau Credyd.  

5.7       Sut y pennir prisiau tocynnau? Pennir prisiau ein tocynnau yn ystod y cam rhaglennu, ac fe’u cedwir yn unol â’n polisi prisio a osodir gan y Rheolwr Gweithrediadau, ond mewn rhai achosion, byddwn ni’n gwerthu tocynnau ar ran ein cleientiaid gan gynnwys trefnwyr cyngherddau / sioeau / digwyddiadau, artistiaid a lleoliadau. Bydd ein cleientiaid yn penderfynu beth yw gwerth pris clawr y tocyn a phan werthir tocyn, byddwn ni’n talu’r arian a gasglwyd o werthiant y tocyn hwnnw i’n cleientiaid.

5.8       Gosodir pob pris gan gynnwys unrhyw drethi perthnasol ond heb gynnwys unrhyw ffi weinyddol / archebu neu ffi gyflenwi.

5.9       Gosodir gwerth pris clawr y tocyn gan y Rheolwr Gweithrediadau neu gan y cleient.

5.10     Rydyn ni’n cadw’r hawl i osod cyfyngiadau ar y nifer o docynnau a archebwyd.

 

6. Ardoll Tocynnau

6.1       Mae’r ffi hwn yn cyfrannu at ein costau gwerthu, dosbarthu a thechnoleg tocynnau. Mae cyfanswm y ffioedd hyn yn ein helpu i dalu costau argraffu’r tocynnau a’r costau technoleg. Ochr yn ochr â refeniw arall, mae’n ein helpu i barhau i fod yn fusnes effeithiol, sydd yn ei dro yn ein galluogi i ailfuddosddi yn ein technoleg a’r gwasanaethau a ddarparwn. Ein Ardoll Tocynau ar hyn o bryd yw 10% o ffi archebu i bob tocyn. Er enghraifft, mae hynny’n Ardoll Tocynau o 50c ar docyn £5, £2 ar docyn £20 a £3 ar docyn £30.

6.2       Gall Theatrau Castell-nedd Port Talbot hefyd weithredu fel asiantaeth werthu tocynnau ar gyfer digwyddiadau allanol a digwyddiadau mewn lleoedd eraill, ac fel arfer bydd yr un ffioedd archebu a chyflenwi’n berthnasol, ond gall hyn amrywio o bryd i’w gilydd.

6.3       Bydd ad-daliadau o’r Ardoll Tocynnau ond yn berthnasol yn achos y sioe / digwyddiad yn cael ei chanslo gennym ni.

6.4       Llogi Preifat  – Rydyn ni’n cadw’r hawl i godi ffi ar y llogwr sy’n gyfwerth a’r Ardoll Tocynnau ar gyfer unrhyw docynnau a werthir y tu allan i’r Swyddfa Docynnau uwchlaw 25% o’r tŷ / perfformiad.  

6.5       Ardoll Tocynnau  Gosodir ardoll tocynnau o 10% ar bryniadau tocynnau a wneir drwy gyfrwng system y Swyddfa Docynnau. Codir y ffi o 10% ar bob trafodiad ar bob pryniant a wneir dros y ffôn, ar lein neu o’r Swyddfa Docynnau, ac mae’n unol ag arferion presennol y diwydiant ar gyfer theatrau a lleoliadau. Mae’r ardoll tocynnau’n sicrhau fod ein mynychwyr yn gallu archebu tocynnau yn y dull mwyaf effeithiol posib.

6.6       Beth yw Ardoll Tocynnau? Codir ardoll tocynnau ar y trafodiad waeth faint o docynnau sy’n cael eu prynu. Mae’r ffi hwn yn ein helpu i dalu costau argraffu’r tocynnau a chostau technoleg.

6.7       Pam fod gennych Ardoll Tocynnau? Mae’r ystod arferol o ffioedd amrywiol a godir gan ddarparwyr tocynnau’n cynnwys Ardoll Tocynnau, taliad trin, comisiwn cerdyn credyd, ffi prosesu, ffi gwasanaeth ac ati. Drwy gyflwyno Ardoll Tocynnau rydyn ni’n sicrhau fod ein mynychwyr yn gallu archebu tocynnau yn y dull mwyaf effeithiol posib.

6.8       Sut mae’r Ardoll Tocynnau o fudd i’r cwsmer? Y brif fantais yw bod Theatrau Castell-nedd Port Talbot yn parhau i werthu ein tocynnau ein hunain ac yn cadw’r angen i ddefnyddio asiantwyr tocynnau cyn lleied â phosib. Mae’r Ardoll Tocynnau’n rhan hanfodol o’n busnes ac mae’n sicrhau ein bod ni’n parhau i gynnig y gwasanaeth gorau i gwsmeriaid, gan weithredu gwasanaeth swyddfa docynnau fodern, effeithiol.

6.9       Beth yw pwrpas yr Ardoll Tocynnau? Ychwanegir Ardoll Tocynnau at bris prynu tocynnau er mwyn helpu talu costau darparu gwasanaeth swyddfa docynnau – costau technoleg TG a chynnal a chadw, meddalwedd, datblygu’r wefan, system ffonau, staff, cyfathrebu costau ariannol ac ati/ Mae’r ffioedd yn talu am gostau gweinyddol a gorbenion a gysylltir â phob gwerthiant tocyn ac yn ogystal, mae Theatrau Castell-nedd Port Talbot yn darparu gwasanaeth i’n cwsmeriaid gyda’u gwybodaeth am ein lleoliadau a’n cwsmeriaid.

6.10     Pam na ellid cynnwys y costau hyn ym mhris y tocyn? Ni ellir, fel rheol, gynnwys y costau hyn ym mhris tocynnau oherwydd yr amryw drefniadau ariannol cymhleth a hanesyddol sy’n bodoli gydag ystod eang o hyrwyddwyr gwahanol. Mae’r rhan fwyaf o arian a enillir drwy werthu tocyn yn mynd yn uniongyrchol i’r hyrwyddwr, felly byddai unrhyw gynnydd ym mhris y tocyn heb weld newid sylweddol yn niwylliant y trefniadau ariannol yn y busnes hamdden ac adloniant yn buddio’r hyrwyddwr yn unig, yn hytrach na’r lleoliad. Dyma pam fod y rhan fwyaf o theatrau sy’n cyflwyno sioeau’n codi ffioedd ar ben pris tocynnau.

6.11     Ydy’r Ardoll Tocynnau wastad yr un peth waeth sut fydda i’n prynu fy nhocynnau? Gosodir yr Ardoll Tocynnau fel canran ar bob trafodiad waeth beth fo’r dull talu, sy’n cynnwys arian parod, cerdyn credyd / debyd a siec.

6.12     Pam fod yr Ardoll Tocynnau’n % nid yn werth ariannol? Mae hyn er mwyn cadw’r ardoll yn deg i bobl sy’n prynu tocynnau rhatach, ac i gadw’n union â’n polisi prisio.  

6.13     Beth am Dalebau Rhodd? Gosodir yr ardoll tocynnau ar docynnau, wrth ddefnyddio taleb rhodd adeg prynu, yn unol â phob dull talu arall.  

7. Casglu neu ddosbarthu tocynnau

7.1       Os dewiswch dderbyn eich tocynnau drwy’r post, byddwn ni’n anelu at anfon eich tocynnau o fewn 7 diwrnod drwy gyfrwng post ail ddosbarth i’r cyfeiriad cyflenwi a nodwyd gennych adeg archebu. Os byddwch am i’r tocynnau gael eu dosbarthu i gyfeiriad arall, gadewch i ni wybod pan fyddwch chi’n archebu os gwelwch yn dda. Er mai ein nod yw anfon eich tocynnau o fewn 7 diwrnod, efallai na fydd hyn yn bosib dan rai amgylchiadau, felly a fyddech cystal â gadael cyn gymaint o amser â phosib i’ch tocynnau gyrraedd os gwelwch yn dda.

7.2       Rydym ni’n annog defnyddio e-docynnau ar gyfer unrhyw docynnau a brynir ar lein ac yn y Swyddfa Docynnau, a byddwch yn derbyn y rhain o fewn ychydig funudau ar ôl cwblhau eich trafodiad. Gellir eu hargraffu gartref, neu gallwch ddangos yr archeb ar eich ffôn symudol. Mae’r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim.

7.3       Os na fyddwch wedi derbyn eich tocynnau o fewn 4 diwrnod cyn y perfformiad, a fyddech cystal â chysylltu â ni dros e-bost neu ffôn i Swyddfa Docynnau’r lleoliad perthnasol (gellir gweld manylion dan amod 18) a rhoi gwybod i aelod o staff y Swyddfa Docynnau os gwelwch yn dda.

7.4       Pe bai’n well gennych gasglu eich tocynnau wyneb yn wyneb neu os ydych chi’n archebu tocynnau 4 diwrnod cyn eich dewis o berfformiad, gallwch gasglu’r tocynnau o’r Swyddfa Docynnau. Ewch i wefan y lleoliad i weld oriau agor a manylion ynghylch pryd y gallwch gasglu eich tocynnau o’r Swyddfa Docynnau. Bydd angen i chi ddod â phrawf hunaniaeth neu wybodaeth ychwanegol gyda chi pan fyddwch chi’n casglu’r tocynnau er mwyn atal darpar dwyll.

7.5       Os ydych wedi penderfynu casglu eich tocynnau o’r Swyddfa Docynnau, nodwch os gwelwch yn dda y bydd eich tocynnau ar gael o’r lleoliad sy’n dangos y sioe yn unig e.e. os prynwyd tocynnau ar gyfer sioe yn Theatr y Dywysoges frenhinol, dim ond yn y lleoliad hwnnw y bydd eich tocynnau ar gael.

7.6       Gwiriwch eich tocynnau ar y cyfle cyntaf ar ôl iddyn nhw gyrraedd drwy’r post os gwelwch yn dda (os ydych chi wedi dewis y dull hwn o gyflenwi), neu pan fyddwch yn eu casglu yn y Swyddfa Docynnau neu pan dderbynnir eich e-docyn, am ei bod hi’n anodd cywiro camgymeriadau yn nes at y perfformiad, oherwydd trefniadau eistedd, faint o le sydd yn y lleoliad a’r posibilrwydd o werthu pob sedd.

7.7       Rydym ni’n gwadu unrhyw atebolrwydd am golli tocynnau pan fyddant mewn cludiant. Cedwir holl fanylion y gwerthiant yn y Swyddfa Docynnau a gellir ailargraffu tocynnau mewn rhai amgylchiadau, ond ni ad-delir costau postio.

Dewisiadau dosbarthu

Yng ngoleuni’r pandemig Coronafeirws, rydym wedi adolygu ein dulliau cyflenwi, gan gymryd cyngor gan SOLT a Theatrau’r DU.

Rydym ni’n annog defnyddio e-docynnau ar gyfer unrhyw docynnau a brynir ar lein ac yn y Swyddfa Docynnau, a byddwch yn derbyn y rhain o fewn ychydig funudau ar ôl cwblhau eich trafodiad. Gellir ychwanegu’r rhan at eich Apple Wallet, eu hargraffu gartref, neu gallwch ddangos yr archeb ar eich ffôn symudol. Mae’r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim. 

Ar gyfer unrhyw docynnau a brynir drwy’r Swyddfa Docynnau, e-docyn fydd y dull cyflenwi arferol, am mai dyma’r ffordd fwyaf diogel i chi dderbyn eich tocyn. Bydd hyn yn golygu llai o giwio a llai o wasgfeydd pobl wrth ein cownter blaen, ni fydd dim trafod tocynnau rhwng staff a chwsmeriaid ac felly bydd mwy o lanweithdra a diogelwch personol.

I’r cwsmeriaid hynny nad oes ganddynt fynediad i ddyfais sy’n addas ar gyfer e-docynnau, gallwn bostio tocynnau i gyfeiriad yn y DU am gost o £1.50 am bob archeb. Ar gyfer archebion a osodir o fewn wythnos cyn y perfformiad, a phan nad oes amser digonol i dderbyn y tocynnau drwy’r post, gellir casglu tocynnau cyn y sioe ar ddiwrnod y digwyddiad. Ewch i wefan y lleoliadau i weld oriau agor a manylion ynghylch pryd y gallwch gasglu eich tocynnau o’r Swyddfa Docynnau.

8. Cynnwys digidol gwallus – defnyddwyr

Mae’r amod hwn ond yn berthnasol os ydych chi’n ddefnyddiwr

  • Rhaid i’r cynnwys digidol a ddarparwn i chi drwy ein gwefan fod fel y disgrifir, yn addas i’w bwrpas ac o safon dderbyniol.

 

  • Dyma grynodeb o rai o’ch hawliau allweddol. Maent yn ychwanegol at eich hawliau statudol fel defnyddiwr. I gael mwy o wybodaeth fanwl am eich hawliau ewch i wefan Cyngor ar Bopeth ar citizensadvice.org.uk neu ffoniwch 03454 04 05 06

 

9. Archebion Grŵp

9.1       Mae arweinwyr grwpiau (gan gynnwys grwpiau ysgol) yn gyfrifol am ymddygiad eu grŵp. Nid yw Theatrau Castell-nedd Port Talbot yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros oruchwylio pobl dan eich gofal. Rhaid i chi sicrhau fod niferoedd digonol o staff sy’n goruchwylio’n dod gyda’r grŵp. Bydd cais yn cael ei wneud i’r grŵp neu rai ohonynt adael y theatr os yw’r perfformwyr neu’r gynulleidfa’n cael eu tarfu ganddynt.

9.2       Gellir cynnig disgownt grŵp o 10 neu fwy ar rai perfformiadau, gwiriwch gyda’r Swyddfa Docynnau cyn archebu am na chaniateir disgownt, ac na ellir cywiro camgymeriad, ar ôl i’r tocynnau gael eu prynu.

9.3       Ni ddylai’r gymhareb plant i oedolion yn unrhyw grŵp fod yn fwy na 10:1. Er budd ein holl gwsmeriaid, fe all ein staff ofyn i’r oedolyn cyfrifol fynd â phlant sy’n swnllyd neu sy’n tarfu ar y gweddill, allan.

 

10.   Polisi ar gyfer plant bach a phlant dan 16 oed

10.1     Mae angen i bawb dan 16 oed gael tocyn dilys i weld digwyddiadau yn y theatrau, a rhaid iddynt fod yng nghwmni rhiant neu warcheidwad.

10.2     Rydyn ni’n sicrhau ein bod mor gyfeillgar i deuluoedd ag y gallwn fod, ac rydyn ni’n croesawu presenoldeb plant yn y rhan fwyaf o berfformiadau, ond hoffem sicrhau fod pob aelod o’n cynulleidfa, a’r perfformwyr, yn mwynhau eu profiad, felly hoffem nodi na chaniateir i unrhyw blentyn dan bedair oed fynd i unrhyw berfformiad oni bai am y rhai sy’n benodol ar gyfer plant.

10.3     Ar gyfer rhai sioeau y barnwn ni sy’n gyfeillgar i deuluoedd, rydyn ni’n cynnig pris cyfeillgar i deuluoedd o £1 i bob plentyn yng nghwmni oedolyn sy’n talu’r pris llawn yng Nghanolfan Gelfyddydau Pontardawe. Yn yr achos hwn, byddwn ni’n cynnig canllaw o ran pa oedran sy’n dod yn yr ystod oedran addas. Mae’r cynnig cyfeillgar i deuluoedd ar gael i bobl ifanc sy’n 16 oed neu iau yn unig.  

10.4     Cynigir gostyngiadau i blant ar rai perfformiadau, i bobl ifanc hyd at 16 oed. Ni ddylech dybio fod y ffaith ein bod ni’n cynnig pris gostyngol i blant yn golygu y byddech chi o’r farn fod y sioe yn addas i bob person yn y categori oedran hwn. Fel rhiant / gwarcheidwad, mae’r farn ynghylch beth sy’n addas i unrhyw ystod oedran yn amrywio’n ddirfawr, felly rhaid i chi fodloni eich hunan o ran addasrwydd sioe, drwy holi gyntaf yn y Swyddfa Docynnau.

10.5     Nid ydym o’r farn fod pob perfformiad byw yn addas i blant ifanc iawn. Efallai y gofynnir i chi fynd â phlentyn yn eich cwmni sy’n aflonydd neu’n llefain allan o’r awditoriwm, os yw’n tarfu ar berfformwyr neu’r gynulleidfa yno. 

10.6     Yn achos unrhyw sioe a hysbysebir fel un ble rydych chi’n sefyll ar eich traed yng Nghanolfan Gelfyddydau Pontardawe a Theatr y Dywysoges Frenhinol fel ei gilydd, bydd gofyn i blant o dan 14 oed eistedd i fyny’r grisiau yn ardal y balcon er eu diogelwch eu hunain.

 

11   Marchnata

11.1     Er bod pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau fod pob deunydd hyrwyddo a ddarperir yn gywir, fe’ch cynghorir i gymryd camau addas i wirio gwybodaeth o’r fath. Hyd y caniateir gan y gyfraith, mae Theatrau Castell-nedd Port Talbot yn gwadu’n benodol bob atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol a achosir gan ddibyniaeth y defnyddiwr ar unrhyw ddatganiadau, gwybodaeth neu gyngor a gynhwysir gan Theatrau Castell-nedd Port Talbot mewn print, ar y wefan neu yn unrhyw ddeunydd hyrwyddo arall a gynhyrchir gan y sefydliad. Rydyn ‘ni’ yn derbyn yr hawl i newid ac amnewid manylion pan fod camgymeriadau amlwg wedi digwydd.

 

12.   Diogelu Data

12.1     Byddwn ni’n cymryd pob cam rhesymol i sicrhau diogelwch eich data personol sy’n cael ei ddal gennym ni. Ymdrinnir ag unrhyw wybodaeth bersonol a rowch i ni yn unol â’n Polisi Preifatrwydd sydd ar gael ar ein gwefannau (gweler Defnydd o’r Wefan am fanylion) sy’n esbonio pa wybodaeth yr ydym yn ei chasglu a’i chadw amdanoch, a sut y byddwn ni’n casglu, storio, defnyddio a rhannu gwybodaeth o’r fath.

12.2     Byddwn ni’n prosesu gwybodaeth bersonol yn unol â’r egwyddorion a nodir yn Neddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol a Gedwir (GDPR y DU).

12.3     Wrth archebu gyda Theatrau Castell-nedd Port Talbot bydd ‘eich’ gwybodaeth bersonol yn cael ei storio ar system gyfrifiadurol y Swyddfa Docynnau at ddibenion gweinyddol. Os ydych wedi dewis derbyn gwybodaeth gennym, byddwn yn anfon diweddariadau atoch ar ba fath o ddigwyddiadau yr ydych wedi dewis clywed amdanynt neu ar gyfer sioeau yr ydym yn meddwl y gallech eu mwynhau yng nghyd-destun eich archebion blaenorol. Gallwch optio allan o dderbyn gwybodaeth gennym ar unrhyw adeg naill ai trwy fewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein neu ffonio’r Swyddfa Docynnau

 

13. Digwyddiadau y tu hwnt i’n rheolaeth

13.1     Ni fyddwn yn atebol i chi os na allwn gyflawni unrhyw un o’n rhwymedigaethau o dan yr amodau hyn oherwydd unrhyw ddigwyddiad neu amgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth resymol gan gynnwys, heb gyfyngiad, gweithredoedd Duw (gan gynnwys tân, llifogydd, daeargryn, storm wynt neu drychineb naturiol arall); pandemig / epidemig; rhyfel neu fygythiad o ryfel neu baratoadau ar gyfer rhyfel, gwrthdaro arfog, gosod sancsiynau, gwaharddiad, torri cysylltiadau diplomyddol neu weithredoedd tebyg, cydymffurfiad gwirfoddol neu orfodol ag unrhyw gyfraith, gorchymyn llywodraethol, rheol, rheoliad neu gyfarwyddyd, tân, ffrwydrad neu ddifrod damweiniol neu faleisus, ymosodiad terfysgol, rhyfel cartref, cynnwrf neu derfysgoedd sifil, tywydd garw, halogiad niwclear, cemegol neu fiolegol neu ddwndwr sonig, cwymp strwythurau adeiladu, methiant cyfrifiaduron neu offer; unrhyw anghydfod llafur, gan gynnwys streiciau, gweithredu diwydiannol neu gloi allan, neu ymyrraeth neu fethiant unrhyw wasanaeth cyfleustodau, gan gynnwys ynni trydan, nwy neu ddŵr.

 

14. Cytundeb cyfan

14.1     Mae’r amodau hyn ac unrhyw ddogfen y cyfeirir yn benodol ati ynddynt yn cynrychioli’r cytundeb cyfan rhyngom ni o ran deunydd trafod unrhyw gytundeb ac maent yn goddiweddyd unrhyw drefniant, dealltwriaeth neu drefniant blaenorol rhyngom, boed hynny ar lafar neu’n ysgrifenedig.

14.2     Rydym o’r ddeuparth yn cydnabod, wrth fynd i gytundeb dros yr amodau hyn, nad yw’r naill na’r llall ohonom wedi dibynnu ar unrhyw gynrychiolaeth, dealltwriaeth neu addewid a roddwyd gan y llall i’w gyfleu drwy unrhyw beth a ddywedwyd neu a ysgrifennwyd mewn trafodaethau rhyngom i gytundeb o’r fath, oni bai fel y datgenir yn glir yn yr amodau hyn.

15. Yr hawl i amrywio’r amodau hyn  

15.1     Mae gennym hawl i adolygu ac amnewid yr amodau hyn o bryd i’w gilydd i adlewyrchu newidiadau yn amodau’r farchnad sy’n effeithio ar ein busnes; newidiadau mewn technoleg; newidiadau mewn dulliau talu; newidiadau mewn cyfreithiau perthnasol a gofynion rheoleiddiol a newidiadau i alluoedd ein system.

16. Toradwyedd

16.1     Os deilr gan unrhyw lys barn neu awdurdod cymwys arall fod unrhyw un o’r Amodau hyn (neu rannau ohonynt) yn annilys, dirym neu anorfodadwy, bydd yn cael ei ddileu a bydd yr amodau sy’n weddill yn parhau i fod mewn grym llwyr a gweithredol, ac os oes angen fe’u hamnewidir cyhyd ag y bo galw er mwyn rhoi effaith i’r amodau hyn.

 

17. Defnyddio’r Wefan – Dolenni i Safleoedd Trydydd Parti  

17.1     Rheolir a phoblogir gwefannau Theatr y Dywysoges Frenhinol a Chanolfan Gelfyddydau Pontardawe (y Gwefannau) gan Theatrau Castell-nedd Port Talbot ac weithiau gallant gynnwys hyperddolenni i wefannau a weithredir gan drydydd parti nad yw’n Theatrau Castell-nedd Port Talbot. Mae rheolaeth gwefannau o’r fath y tu allan i’n rheolaeth “ni” ac rydych chi’n mentro ar eich perwyl eich hun. Nid ydym “ni” yn cymeradwyo nac yn noddi, nac yn gyfrifol am unrhyw gynnwys, cynnyrch na gwasanaethau y cewch chi fynediad iddynt drwy unrhyw safleoedd dolennog.

 

18. Cysylltu a Chwyno  

18.1     Os oes angen i chi gysylltu â Theatrau Castell-nedd Port Talbot, neu os dymunwch gwyno am eich profiad yn un o’n lleoliadau, eich profiad wrth brynu tocynnau neu eich profiad o ddefnyddio’r Gwefannau, gallwch wneud hynny drwy’r dulliau canlynol:

  • E-bost: Theatr y Dywysoges Frenhinol – princess.royal@npt.gov.uk / Canolfan Gelfyddydau Pontardawe – Pontardawe.boxoffice@npt.gov.uk
  • Ffôn:  01639 763214 Theatr y Dywysoges Frenhinol neu 01792 863722 Canolfan Gelfyddydau Pontardawe
  • Llythyr: Theatr y Dywysoges Frenhinol, Canolfan Ddinesig, Port Talbot, SA13 1PJ
    Canolfan Gelfyddydau Pontardawe, Stryd Herbert, Pontardawe, SA8 4ED.

19. COVID-19

I bwrpasau’r adran hon mae COVID-19” yn golygu’r achos byd-eang o’r clefyd coronafeirws anadlol a elwir yn COVID-19 a’r feirws a adwaenir fel coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2), a gadarnhawyd fel pandemig gan Sefydliad Iechyd y Byd ar 11 Mawrth 2020, ac unrhyw don ganlynol neu ddeilliannau o’r un peth.  

19.1     Mae gofyn i chi ddilyn a chydymffurfio â phob cyfraith, rheoliad, rheol a gofyniad sy’n ymwneud â COVID-19 ac a fabwysiadwyd gan Theatrau Castell-nedd Port Talbot fel rhan o’u gweithredoedd yn Theatrau Castell-nedd Port Talbot gan gynnwys ond heb eu cyfyngi i wisgo gorchuddion wyneb ble bo’n berthnasol (“Mesurau COVID-19”). Bydd Theatrau Castell-nedd Port Talbot yn cyfathrebu’r Mesurau COVID-19 i chi o bryd i’w gilydd gan gynnwys a heb gyfyngiad drwy gyfrwng negeseuon e-bost cyn unrhyw ddigwyddiad, cyfryngau cymdeithasol, gwefannau Theatrau Castell-nedd Port Talbot a/neu fel y cyfarwyddir gan stiwardiaid a staff lleoliadau/ Mae’r adran 19.1 hon yn bodoli heb niweidio hawliau Theatrau Castell-nedd Port Talbot a’ch gofyniad chi i ddilyn a chydymffurfio â phob rheol a rheoliad a ddangosir ar arwyddion yn Theatrau Castell-nedd Port Talbot ac i gydymffurfio â phob cyfarwyddyd a roddir i chi gan stiwardiaid a staff y lleoliad.

19.2     Mae’r angen i gyflwyno Pas COVID y GIG yn un o’n Mesurau COVID-19. Mae’n amod o gael mynediad i Theatrau Castell-nedd Port Talbot fod Pas COVID y GIG dilys yn cael ei gyflwyno wrth ddrysau’r lleoliad. Bydd methu â gwneud hyn yn arwain at wrthod mynediad (oni bai eich bod yn methu â chynhyrchu’r Pas COVID y GIG oherwydd eithriadau a ganiateir neu am eich bod chi o dan 18 mlwydd oed, ac y gallwch ddangos tystiolaeth yn y ddau achos o hynny). Mae Pas COVID y GIG yn dystysgrif sy’n dangos fod gennych o leiaf un o’r canlynol:

  • Rydych wedi cwblhau cwrs llawn o frechu o leiaf 14 diwrnod yn ôl.
  • Rydych wedi derbyn canlyniad prawf PCR neu lif unffordd o fewn 36 awr cyn y digwyddiad hwn.
  • Mae gennych brawf o imiwnedd naturiol ar ffurf prawf PCR cadarnhaol o leiaf 180 diwrnod yn ôl.

Byddwn ni’n derbyn prawf o’r Pas COVID GIG yn y ffurfiau canlynol:

  • drwy gyfrwng Ap y GIG (gan gynnwys pdf y gellir ei lawrlwytho);
  • ar wefan NHS.UK; a / neu
  • fel llythyr papur, y gellir gwneud cais amdano drwy wefan NHS.UK neu drwy ffonio 119.

Byddwn ni hefyd yn derbyn Tystysgrif COVID Digidol yr Undeb Ewropeaidd.

19.3     Mae Theatrau Castell-nedd Port Talbot yn cadw’r hawl i newid neu ddileu’i fesurau COVID-19 (a’r adran 19 hon) ar unrhyw adeg mewn ymateb i’r canllawiau neu ddeddfwriaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru neu fel y bernir fel arall yn angenrheidiol gan Theatrau Castell-nedd Port Talbot ac yn ôl ei farn ei hun.

19.4     Mae Theatrau Castell-nedd Port Talbot yn cadw’r hawl i’ch taflu allan o Theatrau Castell-nedd Port Talbot neu i wrthod mynediad i chi i’r lleoliad os, yn ein barn resymol ni, yr ydych chi’n gwrthod cydymffurfio ag unrhyw fesurau COVID-19 heb sail resymol.

© Cyngor Castell-nedd Port Talbot