Hepgor gwe-lywio

Digwyddiadau Llogi Preifat

Mae Theatr y Dywysoges Frenhinol ar gael i'w llogi a gallai fod y lleoliad delfrydol i gynnal eich digwyddiad...

Mae Theatr y Dywysoges Frenhinol ar gael i'w llogi a gallai fod y lleoliad delfrydol i gynnal eich digwyddiad. Rydych chi a'ch cynulleidfa'n siŵr o gael croeso cynnes a chroesawgar gan ein tîm profiadol sydd hefyd yn gallu’ch helpu i drefnu a chynnal eich digwyddiad.

Gellir defnyddio’r theatr mewn modd hyblyg ar gyfer amrywiaeth o gynlluniau eistedd er mwyn bodloni'ch gofynion personol. Mae cefnogaeth dechnegol lawn ar gael i roi sain a golwg broffesiynol i'ch digwyddiad. Mae gennym gyfleusterau swyddfa docynnau a thocynnau i'ch helpu i gynnal eich digwyddiad yn effeithiol, yn ogystal â chyfleoedd marchnata.

Mae’r theatr ym Mhort Talbot ac mae'n hawdd ei chyrraedd o'r M4 gerllaw a dim ond 5 munud ar gerdded ydyw o orsaf drenau Port Talbot Parkway.

Os hoffech siarad â'n tîm digwyddiadau am gynnal eich digwyddiad yn Theatr y Dywysoges Frenhinol, anfonwch ymholiad atom drwy glicio’r botwm isod.

© Cyngor Castell-nedd Port Talbot