Hepgor gwe-lywio

Cwestiynau Cyffredin

Cymerwch gipolwg ar ein cwestiynau cyffredin...

Yn ystod yr wythnos, y lle parcio agosaf yw'r maes parcio aml-lawr sy'n cau am 7pm (SA12 8HN). Yn ystod y nos ac ar y penwythnos bydd y maes parcio gyferbyn â'r theatr/ganolfan ddinesig ar agor gyda lleoedd cyfyngedig.

Mae'r orsaf drenau tua 10 munud i ffwrdd ar gerdded; gadewch yr orsaf, (dylai Gwesty'r Grand fod ar y dde), a cherddwch yn syth ymlaen drwy neuadd yr orsaf ac ymlaen i Heol yr Orsaf, parhewch ar hyd yr heol hon (mae'n datblygu'n ffordd i gerddwyr hanner ffordd ar ei hyd), nes i chi gyrraedd pont droed â chanopi. Cerddwch ar hyd y bont droed ger y Sgwâr Dinesig ac mae'r theatr o'ch blaen, ychydig i'r dde.

Mae'r orsaf fysus tua 5 munud i ffwrdd ar gerdded drwy Ganolfan Siopa Aberafan, sy'n agor ar y Sgwâr Dinesig. Mae safle tacsis ger yr orsaf fysus hefyd.

Oes, yn y toiled anabl yn y derbynfa lawr llawr.

Oes, mae rampiau'n arwain at brif fynedfaoedd yr adeilad.

Oes, mae lifft i'r cylch/ardal y balconi. Sylwer nad ydym yn eich cynghori i'w defnyddio ar gyfer cadeiriau olwyn gan y bydd y lifftiau'n cael eu stopio os oes tân neu argyfwng tebyg.

Mae toiledau ar y ddau lawr, i'r dde cyn i chi gyrraedd yr awditoriwm, gan gynnwys toiled i'r anabl lawr llawr.

Mae toiledau ar bob lefel o Theatr y Dywysoges Frenhinol, ac mae ein cyfleusterau newid cewynnau a'n toiledau hygyrch wedi'u lleoli ar lawr gwaelod y theatr, yng nghyntedd mynedfa'r theatr.

Gallwch, gall unrhyw un y mae angen gofalwr arno wneud cais i ddod yn aelod o Gynllun Hynt, sy'n caniatáu i chi gael tocyn am ddim ar gyfer y gofalwr mewn unrhyw theatr yng Nghymru sy'n cymryd rhan yn y cynllun.

Nid yw tocynnau'n ad-daladwy ac nid oes modd eu trosglwyddo ychwaith, oni bai fod perfformiad yn cael ei ganslo.

I gael rhagor o wybodaeth am ad-daliadau, ailwerthu tocynnau a'u cyfnewid, ffoniwch ein Swyddfa Docynnau'n uniongyrchol.

Oes, cysylltwch â'n Swyddfa Docynnau'n uniongyrchol os hoffech archebu sedd gadw.

Gellir rhyddhau seddi cadw 14 diwrnod ar ôl y dyddiad y trefnwyd yr archeb os nad ydym wedi derbyn cadarnhad neu daliad gennych. Efallai y bydd angen rhyddhau seddi'n gynt na hyn, yn amodol ar argaeledd.

Wrth archebu tocynnau ar gyfer un o'n digwyddiadau, bydd gennych yr opsiwn i ddewis rhwng tocynnau wedi'u hargraffu neu e-docynnau. Caiff e-docynnau eu hanfon drwy e-bost atoch ar ôl i chi eu harchebu.

Ar ôl cyrraedd y theatr; gallwch osgoi ciw'r Swyddfa Docynnau drwy ddangos eich e-docynnau ar eich ffôn symudol i'n tywyswyr cyn eistedd yn eich sedd.

Os dewisoch gael tocynnau wedi'u hargraffu, gallwch drefnu i gael tocynnau newydd yn eu lle drwy gysylltu â'n Swyddfa Docynnau'n uniongyrchol.

Os dewisoch dderbyn e-docyn, gallwch ei lawrlwytho drwy ddefnyddio'ch e-bost cadarnhau. Dylech dderbyn eich e-bost cadarnhau o fewn 10 munud i archebu'ch tocynnau.

Ni chodir tâl am blant 2 oed ac yn iau* ond rhowch wybod i'r swyddfa docynnau pan fyddwch yn archebu'ch tocynnau.

*Efallai y bydd gan sioeau penodol eu polisi oedran eu hunain y mae'n rhaid i ni ei ddilyn, ond byddwn yn nodi hyn yn glir ar ein gwefan os yw'n berthnasol.

Ychwanegir ardoll tocynnau at y tocynnau rydych chi'n eu prynu er mwyn talu'r costau gweinyddol a'r gorbenion sy'n gysylltiedig â phob tocyn a werthwyd.

Rydym yn eich cynghori i gyrraedd o leiaf 30 munud cyn dechrau'r perfformiad i roi amser ar gyfer dod o hyd i le parcio, casglu'r tocynnau ac efallai archebu diodydd neu ddiodydd ar gyfer yr egwyl, os yw ein bar ar agor ar gyfer y perfformiad.

Os oes angen i chi gasglu tocynnau o'n Swyddfa Docynnau, ceisiwch eu casglu cyn gynted â phosib i osgoi ciwio. Mae drysau'r theatr yn agor 20-30 munud cyn i'r sioe ddechrau fel arfer, a rhoddir gwybod i chi drwy gyhoeddiad pan fyddant yn agor.

Rydym yn deall y bydd cyrraedd yn hwyr yn anochel ar adegau. Ar ôl i chi gyrraedd, rhowch wybod i aelod o staff a fydd yn dweud wrthych pryd i fynd i mewn i'r theatr.

Sylwer nad yw rhai sioeau'n caniatáu cwsmeriaid sydd wedi cyrraedd yn hwyr.

Os ydym yn gallu mynd â chi i mewn i'r theatr ar ôl i chi gyrraedd yn hwyr, dylech wybod y gall y theatr fod yn hollol dywyll.

Mae sawl lle bwyta gerllaw. Yn ystod y dydd, mae rhai mannau bwyta ar gael yng Nghanolfan Siopa Aberafan ar ochr arall y sgwâr o'r theatr, gan gynnwys Costa Coffee a Baristas Café. Gallwn hefyd awgrymu Blanco’s Hotel & Restaurant (SA12 6NT), bwyty La Memo (SA13 1NU), tafarn/bwyty Lord Caradoc (SA13 1NW), a The Shah Tandoori (SA13 1NN), sydd hefyd yn agor gyda'r hwyr.

Ydym, rydym yn derbyn taliadau â cherdyn wrth y bar ond nid ydym yn derbyn American Express.

Na, mae ein Hamodau a Thelerau ar gyfer Gwerthiannau yn nodi, oni bai ein bod yn cyhoeddi fel arall, na chaniateir tynnu lluniau na ffilmio yn y theatr ar ôl i sioe ddechrau, o ran parch at y perfformwyr.

Fodd bynnag, rydym yn annog pob cwsmer i dynnu hunlun cyn y sioe a'n tagio ni ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol Rydym ar Instagram, Twitter a Facebook.

Os hoffech dynnu lluniau neu ffilmio'n broffesiynol am unrhyw reswm, mae'n rhaid i chi gael caniatâd ymlaen llaw drwy e-bostio artsmarketing@npt.gov.uk

Nac oes, gofynnwn i chi ofalu am eich eiddo ei hun ar bob adeg pan fyddwch yn dod i ddigwyddiad yn Theatr y Dywysoges Frenhinol.

I roi gwybod am eiddo coll, cysylltwch â'n Swyddfa Docynnau yn uniongyrchol neu e-bostiwch artsmarketing@npt.gov.uk

Mae Theatr y Dywysoges Frenhinol ar gael i'w llogi. I gael rhagor o wybodaeth am logi'r theatr, cliciwch yma.

© Cyngor Castell-nedd Port Talbot