Hepgor gwe-lywio

CynllunHYNT

Cynllun mynediad cenedlaethol yw Hynt sy'n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celfyddydau ar draws Cymru...

Cerdyn aelodaeth yw Hynt

Os oes angen cefnogaeth neu gymorth arnoch i ddod i berfformiad yn y theatr neu'r ganolfan gelfyddydau, efallai eich bod yn gymwys i ymuno â chynllun Hynt.

Cynllun mynediad cenedlaethol yw Hynt sy'n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celfyddydau ar draws Cymru. Mae hefyd yn adnodd i unrhyw un y mae angen gwybodaeth fynediad benodol arnynt i gynllunio taith i'r theatr.

Os oes gennych nam neu ofyniad mynediad penodol, neu os ydych chi'n gofalu am rywun y mae'r rhain yn berthnasol iddo, mae Hynt yn berthnasol i chi. Mae gan ddeiliaid cardiau Hynt hawl i gael tocyn am ddim ar gyfer cynorthwy-ydd personol neu ofalwr yn yr holl theatrau a chanolfannau celfyddydau sy'n cymryd rhan yn y cynllun.

© Cyngor Castell-nedd Port Talbot