Hepgor gwe-lywio

Priodasau

Arbennig . Rhamantus . Unigryw

Priodasau moethus yn ne Cymru

Ni yw un o'r sefydliadau mwyaf mawreddog yn ne Cymru. Gyda thros 850 erw o barcdir godidog o'i gwmpas, mae'r Orendy'n darparu'r amgylchedd rhamantus a hudolus i chi ar gyfer eich diwrnod arbennig. Mae ein lleoliad cain ynghyd â'i leoliad perffaith, ei adfeilion mynachaidd a'i blasty arddull Gothig yn darparu steil ac awyrgylch i chi gyfoethogi'ch priodas.

Os ydych chi'n chwilio am rywle i gynnal digwyddiad mawr neu fach, bydd ein tîm wrth law gyda'i arweiniad a'i brofiad, i'ch helpu i drefnu'ch diwrnod arbennig.Byddwch yn derbyn y sylw gorau posib yn ogystal â gwasanaeth personol heb ei ail.
Mae gennym enw da am ddarparu bwyd a gwasanaeth o safon. Gall ein prif gogydd a'n Tîm Gwledda profiadol gynnig pecyn i chi sy'n addas ar gyfer unrhyw achlysur. O ddigwyddiadau bach i rai annisgwyl, mae ein tîm yn cynnig gwasanaeth cynhwysfawr gan sicrhau y bydd eich priodas yn un na fyddwch chi yn ei hanghofio ac sy'n unigryw i chi.

Nid yw'r Orendy fel unrhyw leoliad arall.

Arbennig  Rhamantus  Unigryw

 

© Cyngor Castell-nedd Port Talbot