Hepgor gwe-lywio

Website Terms and Conditions of Use

Amodau A Thelerau Defnyddio'r Wefan


Cyffredinol

Mae Gwefan Ar-lein Castell-nedd Port Talbot yn eiddo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ac fe'i cynhelir ar gyfer eich defnydd personol.

Mae cyrchu a defnyddio Ar-lein Castell-nedd Port Talbot sy'n cynnwys yr amodau a'r telerau hyn yn golygu eich bod chi (y defnyddiwr) yn derbyn yr amodau a'r telerau hyn, sy'n gweithredu o'r dyddiad y byddwch yn defnyddio'r Wefan hon gyntaf. Cedwir yr hawl gennym i ddiwygio'r amodau a'r telerau hyn ar unrhyw adeg heb rybudd. Os bydd rhywbeth yn cael ei ddiwygio, bydd yr amodau a'r telerau diwygiedig yn cael eu harddangos ar y tudalennau hyn a bydd defnydd parhaol o Ar-lein Castell-nedd Port Talbot ar ôl diwygiad o'r fath yn golygu eich bod yn derbyn yr Amodau a'r Telerau newydd.


Datganiad Cyfrinachedd

Os ydych chi'n ddefnyddiwr gyda mynediad anhysbys, cyhoeddus a chyffredinol nid yw Gwefan Ar-lein Castell-nedd Port Talbot yn storio nac yn cadw gwybodaeth bersonol, dim ond yn cofnodi cyfeiriad IP y defnyddiwr sy'n cael ei gydnabod yn awtomatig gan y gweinyddwr: nid ydym yn defnyddio 'cookies' i gywain gwybodaeth defnyddwyr. Bydd y system yn cofnodi cyfeiriad eich e-bost a gwybodaeth arall os byddwch yn caniatáu i ni ei defnyddio. Bydd yn cael ei thrin yn briodol ac yn gyfrinachol. Efallai bydd yn cael ei defnyddio ar gyfer adolygiad mewnol ac yn eich hysbysu am ddiweddariadau i'r Wefan. Mae'r datganiad cyfrinachedd yn berthnasol i Wefan Ar-lein Castell-nedd Port Talbot yn unig sef www.npt.gov.uk. Nid yw'r datganiad hwn yn diogelu cysylltiadau o fewn y safle hwn â Gwefannau eraill.

* nid ydym yn defnyddio 'cookies' ar gyfer casglu gwybodaeth defnyddwyr.


Defnyddio Cwcis

Beth yw cwci?

Mae cwcis yn ffeiliau testun sy'n cynnwys symiau bach o wybodaeth sy'n cael eu lawrlwytho i'ch dyfais pan fyddwch yn ymweld â gwefan. Yna caiff y cwcis eu hanfon yn ôl i'r wefan wreiddiol ar bob ymweliad dilynol, neu i wefan arall sy'n cydnabod y cwci hwnnw. Mae cwcis yn ddefnyddiol gan eu bod yn caniatáu i wefan i adnabod ddyfais defnyddiwr.

Gallwch ddod o hyd i rhagor o wybodaeth am gwcis yn:

Mae cwcis yn gwneud llawer o swyddi gwahanol, fel gadael i chi lywio rhwng y tudalennau yn effeithlon, gan gofio eich dewisiadau, ac yn gyffredinol yn gwella profiad y defnyddiwr. Gallant hefyd helpu i sicrhau bod hysbysebion a welwch ar-lein yn fwy perthnasol i chi a'ch diddordebau.

Gallwch ddileu a blocio pob cwci o'r wefan hon, ond ni fydd rhannau o'r wefan yn gweithio.

Mae'r mwyafrif o borwyr y we yn rhoi rhywfaint o rheolaeth i mwyafrif o'r cwcis  drwy'r gosodiadau'r porwr.

Cwcis a ddefnyddir ar ein gwefan

Name Category Domain Source Details More info
CookieControl Cwcis Angenrheidiol .www.princessroyaltheatre.com Civic This cookie is set in order to remember the user's preferences in regards to cookies. www.civicuk.com/cookie-control/v8/documentation
ASP.NET_SessionId Cwcis Angenrheidiol .www.princessroyaltheatre.com NPT Set automatically by the software that drives our website, this cookie is essential to the correct working of our website as you browse from page to page, and will expire when your visit is over. social.technet.microsoft.com/wiki/contents/articles/19364.asp-net-web-applications-how-to-avoid-session-hijacking.aspx
__RequestVerificationToken Cwcis Angenrheidiol .www.princessroyaltheatre.com NPT Set automatically by the software that drives our website, this cookie is essential to the correct working of our website as you browse from page to page, and will expire when your visit is over.  
yourAuthCookie Cwcis Angenrheidiol .www.princessroyaltheatre.com NPT Set when you log in to password protected areas of the site.  
ORA_WWV_APP_XXX Cwcis Angenrheidiol appsportal2.npt.gov.uk NPT Security cookie for applications where XXX is a numeric reference for NPT to distinguish services.  
nptLang Dewisiadau .www.princessroyaltheatre.com NPT NPT uses this to store your language setting.  
nptSitesQSLang Dewisiadau .www.princessroyaltheatre.com NPT Used to store the user's language choice  
__cfduid Dadansoddiad .crazyegg.com Cloudflare Used to identify individual clients (anonymously) behind a shared IP address and apply security settings on a per-client basis. Helps Cloudflare detect malicious visitors to our Customers’ websites and minimizes blocking legitimate users. It may be placed on the devices of our customers' End Users to identify individual clients behind a shared IP address and apply security settings on a per-client basis. It is necessary for supporting Cloudflare's security features. support.cloudflare.com/hc/en-us/articles/200170156-Understanding-the-Cloudflare-Cookies
_ceir Dadansoddiad .www.princessroyaltheatre.com Crazy Egg Track whether a visitor has visited the site before www.crazyegg.com/cookies
_cer.s Dadansoddiad .www.princessroyaltheatre.com Crazy Egg Visitor activity recording session unique ID, tracking host and start time www.crazyegg.com/cookies
_cer.v Dadansoddiad .www.princessroyaltheatre.com Crazy Egg Visitor activity recording unique ID, visit time and visit count www.crazyegg.com/cookies
fr Cyfryngau Cymdeithasol .facebook.com Facebook User and browser ID; timestamp; miscellaneous other data. Facebook's primary advertising cookie, used to deliver, measure and improve the relevancy of ads. www.facebook.com/policy/cookies
1P_JAR Dadansoddiad .google.com Google These cookies are used to gather website statistics and track conversion rates.  
ANID Dadansoddiad, Cyfryngau Cymdeithasol .google.com Google The NID cookie contains a unique ID Google uses to remember your preferences and other information, such as your preferred language (e.g. English), how many search results you wish to have shown per page (e.g. 10 or 20), and whether or not you wish to have Google’s SafeSearch filter turned on. policies.google.com/technologies/types?hl=en-GB
CONSENT Dadansoddiad, Cyfryngau Cymdeithasol .google.com Google Stores the user’s cookie consent state for the current domain.  
NID Dadansoddiad, Cyfryngau Cymdeithasol .google.com Google The NID cookie contains a unique ID Google uses to remember your preferences and other information, such as your preferred language (e.g. English), how many search results you wish to have shown per page (e.g. 10 or 20), and whether or not you wish to have Google’s SafeSearch filter turned on. policies.google.com/technologies/types?hl=en-GB
_ga Dadansoddiad .princessroyaltheatre.com, .objective.co.uk Google Analytics Used to distinguish users. developers.google.com/analytics/devguides/collection/analyticsjs/cookie-usage
_gali Dadansoddiad .princessroyaltheatre.com, .objective.co.uk Google Analytics Used by Google Analytics to determine which links on a page that are being clicked. developers.google.com/analytics/devguides/collection/analyticsjs/cookie-usage
_gat Dadansoddiad .princessroyaltheatre.com, .objective.co.uk Google Analytics Used to throttle request rate. If Google Analytics is deployed via Google Tag Manager, this cookie will be named _dc_gtm_. developers.google.com/analytics/devguides/collection/analyticsjs/cookie-usage
_gid Dadansoddiad .princessroyaltheatre.com, .objective.co.uk Google Analytics Used to distinguish users. developers.google.com/analytics/devguides/collection/analyticsjs/cookie-usage
_hjid Dadansoddiad .npt.gov.uk HotJar This cookie is set when the customer first lands on a page with the Hotjar script. It is used to persist the Hotjar User ID, unique to that site on the browser. help.hotjar.com/hc/en-us/articles/115011789248-Hotjar-Cookies
_hjIncludedInSample Dadansoddiad .npt.gov.uk, .appsportal2.npt.gov.uk HotJar web analytics functionality and services from Hot Jar help.hotjar.com/hc/en-us/articles/115011789248-Hotjar-Cookies
JSESSIONID Cwcis Angenrheidiol .nr-data.net, ip.e-paycapita.com NPT a cookie generated by Servlet containers like Tomcat or Jetty and used for session management in J2EE web application for HTTP protocol. javarevisited.blogspot.com/2012/08/what-is-jsessionid-in-j2ee-web.html
ORA_WWV_APP_323 Cwcis Angenrheidiol appsportal2.npt.gov.uk NPT Oracle Application Express session cookie values  
SF_USERS Cwcis Angenrheidiol appsportal2.npt.gov.uk NPT Oracle Application Express session cookie values  
lang Cyfryngau Cymdeithasol cdn.syndication.twimg.com Twitter Helps us to determine the language settings of the user’s browser, to better serve relevant information in the right language.  
player Cyfryngau Cymdeithasol .vimeo.com Vimeo We use Vimeo to embed videos onto our website. These cookies are used by Vimeo to collect analytics tracking information. vimeo.com/cookie_policy
vuid Cyfryngau Cymdeithasol .vimeo.com Vimeo Vimeo Analytics unique id. We use Vimeo to embed videos onto our website. These cookies are used by Vimeo to collect analytics tracking information. vimeo.com/cookie_policy
GPS Cyfryngau Cymdeithasol .youtube.com Youtube / Google Registers a unique ID on mobile devices to enable tracking based on geographical GPS location. policies.google.com/privacy
IDE Cyfryngau Cymdeithasol .doubleclick.com Youtube / Google One of the main advertising cookies on non-Google sites is named ‘IDE‘ and is stored in browsers under the domain doubleclick.net. policies.google.com/technologies/types?hl=en-US
PREF Cyfryngau Cymdeithasol .youtube.com Youtube / Google Registers a unique ID that is used by Google to keep statistics of how the visitor uses YouTube videos across different websites. support.google.com/youtube/answer/171780?hl=en-GB
developers.google.com/analytics/devguides/collection/analyticsjs/cookie-usage?hl=en-GB
VISITOR_INFO1_LIVE Cyfryngau Cymdeithasol .youtube.com Youtube / Google Tries to estimate the users' bandwidth on pages with integrated YouTube videos. support.google.com/youtube/answer/171780?hl=en-GB
YSC Cyfryngau Cymdeithasol .youtube.com Youtube / Google Registers a unique ID to keep statistics of what videos from YouTube the user has seen. support.google.com/youtube/answer/171780?hl=en-GB

Rydym yn defnyddio Google Analytics a Crazy Egg i gasglu gwybodaeth am sut mae pobl yn defnyddio'r safle hwn. Rydym yn gwneud hyn i sicrhau ei fod yn diwallu anghenion ei ddefnyddwyr ac i ddeall sut y gallem ei wneud yn well. Mae Google Analytics yn cadw gwybodaeth am ba dudalennau rhydych chi'n ymweld â nhw, pa mor hir rhydych chi ar y safle, sut y gwnaethoch chi gyrraedd yma a beth rhydych chi'n ei glicio arno. Ni ellir defnyddio'r wybodaeth hon i'ch adnabod chi ac nid ydym yn caniatáu i Google ddefnyddio ein data dadansoddol. Mae Crazy Egg yn cadw gwybodaeth am ble rhydych chi'n clicio o fewn tudalen. Unwaith eto, ni ellir defnyddio'r wybodaeth i'ch adnabod ac nid ydym yn ei rhannu ag unrhyw un arall.

I ddewis peidio â chael eich tracio gan Google Analytics ar draws pob gwefan ewch i http://tools.google.com/dlpage/gaoptout.


Ymwadiad

Mae Gwefan Ar-lein Castell-nedd Port Talbot a deunyddiau sy'n perthyn i wybodaeth, cynnyrch a gwasanaethau Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (neu wybodaeth, cynnyrch a gwasanaethau trydydd person), yn cael eu darparu 'fel y maent' heb unrhyw gynrychiolaeth na chymeradwyaeth a wnaed a heb warant o unrhyw fath p'un ai wedi'i fynegi neu'i olygu, gan gynnwys ond heb ei gyfyngu i'r gwarantau ansawdd boddhaol, ffitrwydd at bwrpas penodol, tor-cyfraith, cysondeb, diogelwch a chywirdeb. Nid ydym yn gwarantu bydd y swyddogaethau sy'n cael eu cynnwys yn y deunyddiau ar y safle hwn heb amhariad neu wallau, y bydd diffygion yn cael eu cywirio, nac y bydd y safle hwn neu'r gweinydd heb feirws neu'n cyflwyno swyddogaeth, cywirdeb, dibynadwyedd llawn y deunyddiau. Ni fyddwn yn atebol o gwbl am unrhyw golled neu ddifrod gan gynnwys, heb gyfyngiad, golled neu ddifrod anuniongyrchol neu o ganlyniad, neu unrhyw golled neu ddifrod sy'n codi wrth ddefnyddio neu golli'r defnydd o ddata, neu elw, a geir mewn perthynas â Gwefan Ar-lein Castell-nedd Port Talbot neu mewn cysylltiad â hi.


Cysylltiadau â Gwefannau Eraill

Er hwylustod i chi , mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y cysylltiadau 'hypertext' o'r Wefan hon â Gwefannau eraill sy'n cael eu gweithredu gan eraill yn berthnasol ac yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol.

Os byddwch yn defnyddio unrhyw un o'r Gwefannau cysylltiedig hyn byddwch yn gadael Gwefan Ar-lein Castell-nedd Port Talbot a byddwch yn gwneud hyn ar eich perwyl eich hunan: rhaid i chi gymryd unrhyw fesurau angenrheidiol i ddiogelu yn erbyn feirysau a/neu gyrff llygrol/ dinistriol eraill.

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys y Gwefannau cysylltiedig hyn na dibynadwyedd unrhyw wybodaeth a ddarparwyd ynddynt ac nid ydym yn atebol (yn gyfreithiol nac fel arall) am unrhyw golled neu ddifrod gan gynnwys, heb atebolrwydd, colledion neu ddifrod anuniongyrchol neu o ganlyniad, a geir neu mewn cysylltiad â'r defnydd o unrhyw un o'r Gwefannau cysylltiedig hyn.

Nid yw cynnwys cysylltiadau â Gwefannau eraill yn golygu mewn unrhyw ffordd, ein bod yn cymeradwyo'r Gwefannau hyn.


Amddiffyn rhag Feirysau

Rydym yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunyddiau ar bob cam cynhyrchu. Mae bob amser yn ddoeth rhedeg rhaglen gwrth-feirws ar yr holl ddeunyddiau sy'n cael eu lawrlwytho o'r Rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled, amhariad neu ddifrod i'ch data neu i'ch system gyfrifiadurol sy'n gallu digwydd tra'n defnyddio deunyddiau a dderbyniwyd o'r Wefan hon.


Hawlfraint

Mae'r deunyddiau sy'n cael eu cynnwys ar y Wefan hon, gan gynnwys heb gyfyngiad, unrhyw destun, logo, eiconau, ffotograffau a gwaith celf arall yn ddeunyddiau hawlfraint i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot oni noder yn wahanol. Gellir defnyddio'r deunyddiau hawlfraint hyn heb ein caniatâd os na fyddant yn cael eu hatgynhyrchu, eu haddasu na'u defnyddio ar gyfer unrhyw fudd ariannol. Gellir gwneud defnydd masanachol yn unig o'r deunydd hawlfraint hwn gyda chymeradwyaeth ysgrifenedig gennym ni.

Nid yw caniatâd defnyddio deunyddiau hawlfraint ar y Wefan hon yn cynnwys unrhyw ddeunyddiau sy'n hawlfraint i drydydd person: rhaid derbyn caniatâd y trydydd person i ddefnyddio eu deunyddiau hawlfraint nhw.

Dylai ceisiadau i ddefnyddio unrhyw ddeunyddiau hawlfraint Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot gael eu cyfeirio at Gyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr, Canolfan Ddinesig, Port Talbot, SA13 1PJ.


Ansawdd y Data

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth o'r ansawdd uchaf ar y Wefan hon a gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth hon yn gywir a chyfoes. Os ydych yn meddwl bod unrhyw wallau neu hen wybodaeth ar y wefan hon cysylltwch â'r Gwefeistr ar yr e-bost canlynol webmaster@npt.gov.uk


Awdurdodaeth Gyfreithiol

Bydd yr amodau a'r telerau hyn yn cael eu rheoli a'u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw ddadlau a geir dan yr amodau a'r telerau hyn yn amodol ar awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.


Cydnabyddiaeth o Hawlfraint

Mae rhai deunyddiau a gyhoeddwyd ar y dudalen hon wedi'u cymryd o Wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac maent yn ddeunyddiau a ddiogelir gan Hawlfraint y Goron.

© Cyngor Castell-nedd Port Talbot