Hepgor gwe-lywio

Seremoni a Derbyniad Priodas

Popeth y mae angen i chi ei wybod am eich priodas yn yr Orendy

Wrth logi'r Orendy, byddwch yn cael mynediad unigryw at Ystafell Wledda'r Orendy, derbynfa The Grove yn ogystal â Phafiliwn y Dwyrain, y gellir ei ddefnyddio fel ardal y derbyniad neu fel ardal i'ch gwestai gael seibiant. Byddwch hefyd yn cael defnyddio ein hystafell briodasol, offer sain a meicroffon, stand teisen a chyllell, lleiniau byrddau a chadachau gwyn a chyfleusterau bar.
 
Bydd gennych gyfle unigryw i dynnu lluniau yn yr Orendy ac yng ngherddi'r Orendy. Mae mynediad cyhoeddus i'r ardal hon ond gwneir pob ymdrech i sicrhau bod gennych breifatrwydd i dynnu lluniau ar gyfer eich priodas.

 

Seremonïau Sifil

Mae'r Orendy wedi'i drwyddedu fel lleoliad sy'n gweinyddu priodasau sifil a phartneriaethau sifil gerbron yr Uwch-gofrestrydd a'r Cofrestrydd. Eich cyfrifoldeb chi yw cysylltu â'r cofrestrydd i wneud y trefniadau ar gyfer eich seremoni sifil - (rhif ffôn 01639 760020). Bydd y ffi llogi hefyd yn cynnwys defnydd o ardal The Grove os bydd angen ar gyfer y gweithgareddau hyn.
© Cyngor Castell-nedd Port Talbot